Acts 11

Pedr yn esbonio beth wnaeth

1Clywodd yr apostolion a'r credinwyr yn Jwdea fod pobl o genhedloedd eraill wedi credu neges Duw. 2Ond pan aeth Pedr yn ôl i Jerwsalem, cafodd ei feirniadu'n hallt gan rai o'r credinwyr Iddewig, 3“Rwyt ti wedi mynd at bobl o genhedloedd eraill
11:3 Groeg dynion heb gael eu henwaedu.
a hyd yn oed bwyta gyda nhw!” medden nhw.

4Dyma Pedr yn dweud wrthyn nhw'n union beth oedd wedi digwydd: 5“Roeddwn i yn Jopa, ac wrthi'n gweddïo ryw ddiwrnod pan ges i weledigaeth. Gwelais i rywbeth tebyg i gynfas fawr yn cael ei gollwng i lawr o'r awyr wrth ei phedair cornel. Daeth i lawr reit o mlaen i. 6Edrychais i mewn ynddi, ac roedd pob math o anifeiliaid – rhai gwyllt, ymlusgiaid ac adar. 7Wedyn dyma lais yn dweud wrtho i, ‘Cod Pedr, lladd beth rwyt ti eisiau, a'i fwyta.’

8“Dwyt ti ddim o ddifri, Arglwydd!” meddwn i. “Dw i erioed wedi bwyta dim byd sy'n cael ei gyfri'n aflan neu'n anghywir i'w fwyta!”

9“Ond wedyn dyma'r llais o'r nefoedd yn dweud, ‘Os ydy Duw wedi dweud fod rhywbeth yn iawn i'w fwyta, paid ti â dweud fel arall!’ 10Digwyddodd yr un peth dair gwaith cyn i'r gynfas gael ei thynnu yn ôl i fyny i'r awyr.

11“Y funud honno dyma dri dyn oedd wedi cael eu hanfon ata i o Cesarea yn cyrraedd y tu allan i'r tŷ lle roeddwn i'n aros. 12Dyma'r Ysbryd Glân yn dweud wrtho i am beidio petruso mynd gyda nhw. Aeth y chwe brawd yma gyda mi a dyma ni'n mynd i mewn i dŷ'r dyn oedd wedi anfon amdana i. 13Dwedodd wrthon ni ei fod wedi gweld angel yn ei dŷ, a bod yr angel wedi dweud wrtho, ‘Anfon i Jopa i nôl dyn o'r enw Simon Pedr. 14Bydd e'n dweud sut y gelli di a phawb sy'n dy dŷ gael eu hachub.’

15“Pan ddechreuais i siarad, dyma'r Ysbryd Glân yn dod arnyn nhw yn union fel y daeth arnon ni ar y dechrau. 16A dyma fi'n cofio beth roedd yr Arglwydd Iesu wedi ei ddweud: ‘Roedd Ioan yn bedyddio gyda dŵr, ond mewn ychydig ddyddiau cewch chi'ch bedyddio gyda'r Ysbryd Glân.’ 17Felly gan fod Duw wedi rhoi'r un rhodd iddyn nhw ag a roddodd i ni pan wnaethon ni gredu yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i i geisio rhwystro Duw?”

18Pan glywon nhw'r hanes, doedden nhw ddim yn gallu dweud dim yn groes, a dyma nhw'n dechrau moli Duw. “Mae'n rhaid fod Duw felly'n gadael i bobl o genhedloedd eraill droi cefn ar eu pechod a chael bywyd!” medden nhw.

Yr eglwys yn Antiochia

19O ganlyniad i'r erlid ddechreuodd yn dilyn beth ddigwyddodd i Steffan, roedd rhai credinwyr wedi dianc mor bell a Phenicia, Cyprus ac Antiochia yn Syria. Roedden nhw'n rhannu'r neges, ond dim ond gydag Iddewon. 20Ond yna dyma'r rhai aeth i Antiochia o Cyprus a Cyrene yn dechrau cyhoeddi'r newyddion da am yr Arglwydd Iesu i bobl o genhedloedd eraill. 21Roedd Duw gyda nhw, a dyma nifer fawr o bobl yn credu ac yn troi at yr Arglwydd.

22Pan glywodd yr eglwys yn Jerwsalem am y peth, dyma nhw'n anfon Barnabas i Antiochia i weld beth oedd yn digwydd. 23Pan gyrhaeddodd yno gwelodd yn glir fod Duw ar waith. Roedd wrth ei fodd, ac yn annog y rhai oedd wedi credu i aros yn ffyddlon i'r Arglwydd a rhoi eu hunain yn llwyr iddo. 24Roedd Barnabas yn ddyn da, yn llawn o'r Ysbryd Glân ac yn credu'n gryf, a chafodd nifer fawr o bobl eu harwain ganddo at yr Arglwydd.

25Aeth Barnabas yn ei flaen i Tarsus wedyn i edrych am Saul. 26Ar ôl dod o hyd iddo, aeth ag e yn ôl i Antiochia. Buodd y ddau yno gyda'r eglwys am flwyddyn gyfan yn dysgu tyrfa fawr o bobl. (Gyda llaw, yn Antiochia y cafodd dilynwyr Iesu eu galw yn Gristnogion am y tro cyntaf.)

27Rywbryd yn ystod y flwyddyn honno daeth rhyw broffwydi o Jerwsalem i Antiochia. 28Yn un o'r cyfarfodydd, dyma un ohonyn nhw (dyn o'r enw Agabus) yn sefyll ar ei draed, ac yn proffwydo dan ddylanwad yr Ysbryd Glân fod newyn trwm yn mynd i ledu drwy'r byd Rhufeinig i gyd. (Digwyddodd y newyn hwnnw yn ystod teyrnasiad Clawdiws.) 29Felly dyma'r credinwyr yn Antiochia yn penderfynu helpu eu brodyr a'u chwiorydd yn Jwdea, drwy i bawb gyfrannu cymaint ag y gallai. 30Dyma nhw'n gwneud hynny, a Barnabas a Saul gafodd eu dewis i fynd â'r rhodd i arweinwyr eglwys Jerwsalem.

Copyright information for CYM